Barddoni

Mae Mei Mac yn Brifardd. Fo enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol De Powys yn 1993. Bu’n Fardd Plant Cymru ac ers blynyddoedd mae’n teithio Cymru yn barddoni gyda phlant ysgol yn ogystal ag oedolion.

Bydd yn arwain, ac yn cymryd rhan, mewn prosiectau ysgrifennu o bob math. Mae hefyd yn rhoi sgyrsiau i gymdeithasau lleol, clybiau darllen neu’n siaradwr gwadd mewn cinio Nadolig neu ddathliad arall. Cliciwch yma i wybod mwy am ei waith mewn ysgolion.

Cerddi personol
Mae Mei’n cynnig englynion, penillion a phob math o gerddi i wahanol achlysuron arbennig fel pen-blwydd, priodas, babi newydd, bedydd, angladd/carreg fedd, diolch ac yn y blaen.  Mae’n sgwennu ar gyfer unigolion, grwpiau a chwmnïau/busnesau. Fel arfer mae’r gerdd yn barod mewn tua 7 i 10 niwrnod.

Os am archebu cerdd, cysylltwch â Mei: mei@meimac.cymru. Bydd gofyn i chi gyflwyno digon o wybodaeth am y person/achlysur.

Cerdd rydd: £60
Englyn: £65
Y gwaith yn eich cyrraedd fel  PDF dros e-bost i chi eu hargraffu eich hunain, neu i’w fframio/pwytho. Chi a neb arall fydd piau’r gerdd a’r hawlfraint arni.

£12 – £15 yn ychwanegol os ydych chi eisiau hi yn llawysgrifen Mei a’i fod o’n ei harwyddo hefyd. Mi fydd y gerdd yn cael ei phostio atoch mewn amlen galed.  

Englynion comisiwn i ben-blwydd

Guto Rhys
(ar ben ei flwydd yn ddeugain oed)

Y brawd a’r tad cariadus, – dyn capel,
dyn Kop â dant melys,
ein llyw, ein torchwr llewys,
ti yw yr un Guto Rhys!

Y gŵr tawel a selog – a rasiai
at ddrws ei gymydog;
a’r un sy’n dilyn yr og
a gwir enaid Graianog.

Englynion comisiwn am briodas a ohiriwyd am flwyddyn!

Daw eto wawr!
(i Elain a Simon)

Ynysu, tyfu’n glosiach, – ac aros
dydd eich gwawr sydd gallach;
nid aiff cariad yn ffradach:
trech fydd eich dwy fodrwy fach.

Ymhen blwyddyn yn union – ’nelu nôl
wnawn, Elain a Simon;
parti mawr fydd Portmeirion,
mi ddaw eich gwawr lawr y lôn!

Englyn i fabi newydd!

Eto haf

Da’r hogyn! Doist â rhagor – o heulwen
a throi nôl y tymor,
ac y mae uwch gwg y môr
eto haf Guto Ifor!

Englyn comisiwn:

Diolch i Mrs Rhys, Ysgol Brynaerau

Englyn mewn llawysgrifen, wedi ei ffamio.

Rhoi

Rhoi ei hadain gariadus – i’n rhai bach,
rhoi ei byd i’w tywys;
rhoi’n ddyfal a gofalus,
rhoi a rhoi mae Mrs Rhys.

Englyn Pen-bwydd

I Anest yn 18oed
(bu Anest yn aelod o staff gwerthfawr ym Mryn Eisteddfod)

Englyn mewn llawysgrifen, ar lechen.

Anest

Un dda, gwell nac unrhyw ddyn – yn ei gwaith,
un gall ac un sydyn;
yn gwneud gyda gwên wedyn.
Da, wir yr! Anest yw’r un!

Cerdd i Briodas

Teulu

i Celyn Mair a Dion Llŷr ar ddydd eu glân briodas

Mae Hydref wedi blingo’r coed,
a’r llwybrau’n drymach nag erioed,
ond ar y ffordd o’r eglwys lân,
mae dau yn dawnsio’n ysgafn droed.

Mae’r dail o bopty’r lôn ar dân
a chanu mae’r holl adar mân
bod Dion Llŷr a Chelyn Mair
yn ŵr a gwraig, yn ddiwahân.

Yng Nghastell Rhuthun mae fel ffair
a hwyl a miri’n llenwi’r pair,
a sgwrsio mawr dan hetiau drud,
ac Efa’n gwrando ar bob gair.

Yfory fe fydd gwynt o hyd
yn siglo’r coed o bopty’r stryd,
ond dedwydd fyddwch, cynnes, clyd
yn deulu perffaith – gwyn eich byd,
yn deulu perffaith – gwyn eich byd.

Cerdd 18 oed

Manon

Yn dathlu deunaw oed

Mynna weld popeth Manon, – ar dy daith,
agor di dy orwelion;
ar lawr pob modfedd o’r lôn
mae aur a gwyrthiau mawrion.

Cerdd i gwmni adeiladu

Jones Brothers, Bontnewydd

Yn dathlu canrif ers sefydlu’r cwmni

Mae canrif wedi llifo – i’r môr mawr,
a mynd ddaru honno
yn gerrynt, mynd dan gario
enw dau frawd hyd y fro.

Cerdd deyrnged i angladd

Er Cof am Trefor Wyn, Pant Glas Cennin

A fu farw’n 50oed. Roedd yn briod â Rangi o Seland Newydd.

Trefor

Roedd o’n sionc fel ŵyn y mynydd,
galla’i wên o droi y tywydd.
Yn y dafarn roedd o’n frenin;
da oedd Trefor, Pant Glas Cennin.

Yn ei lygaid roedd ‘na firi,
yn ei gân roedd haul y Maori,
yn ei galon chwim ei churiad
‘roedd ‘na lond dwy wlad o gariad.

Hogyn call a hogyn gwirion
hogyn hardd ac enaid tirion,
Hogyn doeth fel hen dylluan
a aeth i’r t’wllwch yn rhy fuan.

Tra bod haul yn dilyn lleuad,
tra bod iaith y nef i’w siarad,
tra bydd rhedyn Seland Newydd
bydd Trefor yn y co’n dragywydd.

Enlgyn coffa

Owie Thomas

Ar ran Cyfeillion Eglwys Llangristiolus

Rhoi, hyd y diwedd, weddi; – rhoi yn llwyr
i’n Llan dy ddireidi;
a rhoi’n hael ar ein rhan ni
yn dawel a wnest Owie.

Cerdd i wraig/cariad

Llinos Howatson

Ar ran ei gŵr, Eifion

Mae seren dlos ym Mlaen y Nant,
un seren ifanc hanner cant,
sydd yn goleuo byd y plant.

A than ei golau disglair clên
mae hwyl o hyd a chân a gwên,
a gyda hi caf dyfu’n hen,

a dawnsio wnawn bob hyn a hyn,
a lleuad Medi’n fawr a gwyn,
a’n dwylo, fel erioed, yn dynn.

A gyda’i chalon fawr ar waith,
a’i gofal a’i hamynedd maith
un hir a dedwydd fydd ein taith.

Yn wybren Duw mae sêr di-ri,
ond does ’run seren uwch y lli,
mor llachar â fy seren i.

Englynion ddiolch

Elfed ‘Steddfod

Ar ran pob hwyliwr paned, – y baswrs
a’r bois llwybrau caled,
y rapwyr oll a’r parêd
o chwilfeirdd – diolch Elfed.

Tynnu ein gŵyl at ein gilydd – a gwenu
drwy gwynion tragywydd,
ymboeni drosom beunydd.
Hyd y Farn un Elfed fydd.

>

Englyn carreg fedd

Davinia Griffiths

Diwyd oedd ar hyd y daith – a’i gofal
Yn gyfan, yn obaith.
Rhoddodd ei chyfan ganwaith
Dan wenu, gan garu’r gwaith.

Cerdd deyrnged i angladd

Llwch Sêr

Er cof am Karen Wenllys

Fe gwrddais i â llawer ar y lôn,
rhai da, rhai brith, rhai enwog a di-sôn
ond yn fy nghof mae seren wen o Fôn.

Ei ’nabod wnes yn rhy hwyr ar y naw,
y ferch a ddôi â haul ar b’nawn o law,
y ferch na fu erioed yn wag ei llaw:

y seren fu’n goleuo’r Beudy Bach,
â sêr mân, mân mewn amlen ac mewn sach,
a rheiny’n pefrio fel ei llygaid iach;

y galon fawr a oedd o hyd ar gael,
yr ysbryd cynnes, clên, y cyfaill hael,
yr enaid dlos mewn byd mor hyll a gwael.

Er gwaetha’r trymder mawr wrth fynd drwy’r drin
byrlymai fel y soda yn ei gwin,
a Lwsi ddewr yn drysor ar ei glin.

Ac wrth i’r dyddiau fynd o un i un,
wrth gydio’n nwy law Dafydd hoff gytûn,
mi ’roedd ei dewrder hi yn dychryn dyn.

Mae nos yn disgwyl pawb ohonom ni
a phan ddaw’r t’wyllwch mawr i’m cwfwr i
mi gydiaf yn y mil o sêr di-ri,
y sêr a’r nerth a gefais ganddi hi.

Cerdd deyrnged i angladd

Beno

Y dafarn orau dan y nen

Mae na dafarn yn fy mhen,
y dafarn ora’ dan y nen,
a Beno’n chwerthin dros y pren.

Beno yn ei ffordd ei hun;
Beno’r hogyn, Beno’r dyn;
Beno’r enaid hoff gytûn.

Dyn a’i jôcs a’i driciau’n lli,
Dyn yn dallt beth ydi sbri,
Dyn a oedd fel brawd i ni.

A dyma Chwefror un prynhawn
yn canu’r gloch yn gynnar iawn,
canu’r gloch a’r lle mor llawn.

Ac yma, wedi ein sobri’n llwyr,
mae holi mawr hyd oriau’r hwyr:
pam mynd â Beno? Duw a ŵyr.

Mae’n ddistaw ym Mryn Gwna’n awr
a gwydrau gweigion hyd y llawr,
a llond y lle o hiraeth mawr.

Ond yn y dafarn yn fy mhen,
y dafarn orau dan y nen, mae
Beno’n dal tu draw i’r pren.

Mae’n dafarn glên a thafarn glyd,
tafarn lawn yw hi o hyd,
a gwên llon Beno’n llenwi’n byd.

Englyn coffa

Dewi

A oedd yn rhedeg llyn pysgota Llyn Jane, Llandegfan

Mae’r glannau mor wag ‘leni – a di-hwyl
yw’r don ers ei golli,
a’r llyn, y caban a’r lli
sy’n Dawel heb sŵn Dewi.

Englyn Dydd Santes Dwynwen

Ti yw..

fy ngoleuad, fy ngloyw – angyles,
fy ngwely unigryw,
fy mêl uchwlaw yr rhelyw
fy aer sy’n fy nghadw’n fwy.

Englyn Dydd Santes Dwynwen

Ynof

Ynof wyt, yn storm yn fud – yn ‘y ngwallt
a ‘ngwên byth a hefyd,
ynof yn dân bob munud,
ynof am oes, gwyn fy myd.