Mae Mei Mac yn Brifardd. Fo enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol De Powys yn 1993. Bu’n Fardd Plant Cymru ac ers blynyddoedd mae’n teithio Cymru yn barddoni gyda phlant ysgol yn ogystal ag oedolion.
Bydd yn arwain, ac yn cymryd rhan, mewn prosiectau ysgrifennu o bob math. Mae hefyd yn rhoi sgyrsiau i gymdeithasau lleol, clybiau darllen neu’n siaradwr gwadd mewn cinio Nadolig neu ddathliad arall. Cliciwch yma i wybod mwy am ei waith mewn ysgolion.
Yma Wyf Inna i Fod
Cytgan y gân ‘Yma wyf inna i fod’ mewn llawysgrifen, wedi ei fframio.
Cyfle prin ac unigryw i brynu cytgan y gân boblogaidd ‘Yma Wyf Inna i Fod’ yn llawysgrifen Mei, awdur y geiriau.
£45 + £5 cludiant.
Os am archebu cerdd, cysylltwch â Mei: mei@meimac.cymru.
Cerdd rydd 6 i 8 pennill. £150
Cywydd £150
Englyn: £95
Bydd y gwaith yn eich cyrraedd fel PDF dros e-bost i chi eu hargraffu eich hunain, neu i’w fframio/pwytho. Chi a neb arall fydd piau’r gerdd a’r hawlfraint arni.
Os ydych chi eisiau’r gerdd yn llawysgrifen Mei, ar bapur safonol, bydd hynny’n £20 yn ychwanegol.
Caiff y gerdd ei phostio atoch mewn tiwb.
•• Nid yw Mei yn gallu cymryd unrhyw gomisiwn newydd ar hyn o bryd ac mi fydd yn ganol fis Awst 20123 arno yn cychwyn eto arni. Diolch! ••
Englynion comisiwn i ben-blwydd
Guto Rhys
(ar ben ei flwydd yn ddeugain oed)
Y brawd a’r tad cariadus, – dyn capel,
dyn Kop â dant melys,
ein llyw, ein torchwr llewys,
ti yw yr un Guto Rhys!
Y gŵr tawel a selog – a rasiai
at ddrws ei gymydog;
a’r un sy’n dilyn yr og
a gwir enaid Graianog.
Englynion comisiwn am briodas a ohiriwyd am flwyddyn!
Daw eto wawr!
(i Elain a Simon)
Ynysu, tyfu’n glosiach, – ac aros
dydd eich gwawr sydd gallach;
nid aiff cariad yn ffradach:
trech fydd eich dwy fodrwy fach.
Ymhen blwyddyn yn union – ’nelu nôl
wnawn, Elain a Simon;
parti mawr fydd Portmeirion,
mi ddaw eich gwawr lawr y lôn!
Englyn i fabi newydd!
Eto haf
Da’r hogyn! Doist â rhagor – o heulwen
a throi nôl y tymor,
ac y mae uwch gwg y môr
eto haf Guto Ifor!
Englyn comisiwn:
Diolch i Mrs Rhys, Ysgol Brynaerau
Englyn mewn llawysgrifen, wedi ei ffamio.
Rhoi
Rhoi ei hadain gariadus – i’n rhai bach,
rhoi ei byd i’w tywys;
rhoi’n ddyfal a gofalus,
rhoi a rhoi mae Mrs Rhys.
Englyn Pen-bwydd
I Anest yn 18oed
(bu Anest yn aelod o staff gwerthfawr ym Mryn Eisteddfod)
Englyn mewn llawysgrifen, ar lechen.
Anest
Un dda, gwell nac unrhyw ddyn – yn ei gwaith,
un gall ac un sydyn;
yn gwneud gyda gwên wedyn.
Da, wir yr! Anest yw’r un!
Cerdd i Briodas
Teulu
i Celyn Mair a Dion Llŷr ar ddydd eu glân briodas
Mae Hydref wedi blingo’r coed,
a’r llwybrau’n drymach nag erioed,
ond ar y ffordd o’r eglwys lân,
mae dau yn dawnsio’n ysgafn droed.
Mae’r dail o bopty’r lôn ar dân
a chanu mae’r holl adar mân
bod Dion Llŷr a Chelyn Mair
yn ŵr a gwraig, yn ddiwahân.
Yng Nghastell Rhuthun mae fel ffair
a hwyl a miri’n llenwi’r pair,
a sgwrsio mawr dan hetiau drud,
ac Efa’n gwrando ar bob gair.
Yfory fe fydd gwynt o hyd
yn siglo’r coed o bopty’r stryd,
ond dedwydd fyddwch, cynnes, clyd
yn deulu perffaith – gwyn eich byd,
yn deulu perffaith – gwyn eich byd.
Cerdd 18 oed
Manon
Yn dathlu deunaw oed
Mynna weld popeth Manon, – ar dy daith,
agor di d’orwelion;
ar lawr pob modfedd o’r lôn
mae aur a gwyrthiau mawrion.
Cerdd i gwmni adeiladu
Jones Brothers, Bontnewydd
Yn dathlu canrif ers sefydlu’r cwmni
Mae canrif wedi llifo – i’r môr mawr,
a mynd ddaru honno
yn gerrynt, mynd dan gario
enw dau frawd hyd y fro.
Cerdd deyrnged i angladd
Er Cof am Trefor Wyn, Pant Glas Cennin
A fu farw’n 50oed. Roedd yn briod â Rangi o Seland Newydd.
Trefor
Roedd o’n sionc fel ŵyn y mynydd,
galla’i wên o droi y tywydd.
Yn y dafarn roedd o’n frenin;
da oedd Trefor, Pant Glas Cennin.
Yn ei lygaid roedd ‘na firi,
yn ei gân roedd haul y Maori,
yn ei galon chwim ei churiad
‘roedd ‘na lond dwy wlad o gariad.
Hogyn call a hogyn gwirion
hogyn hardd ac enaid tirion,
Hogyn doeth fel hen dylluan
a aeth i’r t’wllwch yn rhy fuan.
Tra bod haul yn dilyn lleuad,
tra bod iaith y nef i’w siarad,
tra bydd rhedyn Seland Newydd
bydd Trefor yn y co’n dragywydd.
Enlgyn coffa
Owie Thomas
Ar ran Cyfeillion Eglwys Llangristiolus
Rhoi, hyd y diwedd, weddi; – rhoi yn llwyr
i’n Llan dy ddireidi;
a rhoi’n hael ar ein rhan ni
yn dawel a wnest Owie.
Cerdd i wraig/cariad
Llinos Howatson
Ar ran ei gŵr, Eifion
Mae seren dlos ym Mlaen y Nant,
un seren ifanc hanner cant,
sydd yn goleuo byd y plant.
A than ei golau disglair clên
mae hwyl o hyd a chân a gwên,
a gyda hi caf dyfu’n hen,
a dawnsio wnawn bob hyn a hyn,
a lleuad Medi’n fawr a gwyn,
a’n dwylo, fel erioed, yn dynn.
A gyda’i chalon fawr ar waith,
a’i gofal a’i hamynedd maith
un hir a dedwydd fydd ein taith.
Yn wybren Duw mae sêr di-ri,
ond does ’run seren uwch y lli,
mor llachar â fy seren i.
Englynion ddiolch
Elfed ‘Steddfod
Ar ran pob hwyliwr paned, – y baswrs
a’r bois llwybrau caled,
y rapwyr oll a’r parêd
o chwilfeirdd – diolch Elfed.
Tynnu ein gŵyl at ein gilydd – a gwenu
drwy gwynion tragywydd,
ymboeni drosom beunydd.
Hyd y Farn un Elfed fydd.
>
Englyn carreg fedd
Davinia Griffiths
Diwyd oedd ar hyd y daith – a’i gofal
Yn gyfan, yn obaith.
Rhoddodd ei chyfan ganwaith
Dan wenu, gan garu’r gwaith.
Cerdd deyrnged i angladd
Llwch Sêr
Er cof am Karen Wenllys
Fe gwrddais i â llawer ar y lôn,
rhai da, rhai brith, rhai enwog a di-sôn
ond yn fy nghof mae seren wen o Fôn.
Ei ’nabod wnes yn rhy hwyr ar y naw,
y ferch a ddôi â haul ar b’nawn o law,
y ferch na fu erioed yn wag ei llaw:
y seren fu’n goleuo’r Beudy Bach,
â sêr mân, mân mewn amlen ac mewn sach,
a rheiny’n pefrio fel ei llygaid iach;
y galon fawr a oedd o hyd ar gael,
yr ysbryd cynnes, clên, y cyfaill hael,
yr enaid dlos mewn byd mor hyll a gwael.
Er gwaetha’r trymder mawr wrth fynd drwy’r drin
byrlymai fel y soda yn ei gwin,
a Lwsi ddewr yn drysor ar ei glin.
Ac wrth i’r dyddiau fynd o un i un,
wrth gydio’n nwy law Dafydd hoff gytûn,
mi ’roedd ei dewrder hi yn dychryn dyn.
Mae nos yn disgwyl pawb ohonom ni
a phan ddaw’r t’wyllwch mawr i’m cwfwr i
mi gydiaf yn y mil o sêr di-ri,
y sêr a’r nerth a gefais ganddi hi.
Cerdd deyrnged i angladd
Beno
Y dafarn orau dan y nen
Mae na dafarn yn fy mhen,
y dafarn ora’ dan y nen,
a Beno’n chwerthin dros y pren.
Beno yn ei ffordd ei hun;
Beno’r hogyn, Beno’r dyn;
Beno’r enaid hoff gytûn.
Dyn a’i jôcs a’i driciau’n lli,
Dyn yn dallt beth ydi sbri,
Dyn a oedd fel brawd i ni.
A dyma Chwefror un prynhawn
yn canu’r gloch yn gynnar iawn,
canu’r gloch a’r lle mor llawn.
Ac yma, wedi ein sobri’n llwyr,
mae holi mawr hyd oriau’r hwyr:
pam mynd â Beno? Duw a ŵyr.
Mae’n ddistaw ym Mryn Gwna nawr
a gwydrau gweigion hyd y llawr,
a llond y lle o hiraeth mawr.
Ond yn y dafarn yn fy mhen,
y dafarn orau dan y nen,
mae Beno’n dal tu draw i’r pren.
Mae’n dafarn glên a thafarn glyd,
a thafarn lawn yw hi o hyd,
a gwên llon Beno’n llenwi’n byd.
Englyn coffa
Dewi
A oedd yn rhedeg llyn pysgota Llyn Jane, Llandegfan
Mae’r glannau mor wag ‘leni – a di-hwyl
yw’r don ers ei golli,
a’r llyn, y caban a’r lli
sy’n Dawel heb sŵn Dewi.
Englyn Dydd Santes Dwynwen
Ti yw..
fy ngoleuad, fy ngloyw – angyles,
fy ngwely unigryw,
fy mêl uchwlaw yr rhelyw
fy aer sy’n fy nghadw’n fwy.
Englyn Dydd Santes Dwynwen
Ynof
Ynof wyt, yn storm yn fud – yn ‘y ngwallt
a ‘ngwên byth a hefyd,
ynof yn dân bob munud,
ynof am oes, gwyn fy myd.