Testun a Chyfieithu

Os am greu argraff dda mae’n rhaid wrth destun da. Gyda’i grefft trin geiriau gall Mei deilwra testun ar gyfer pob math o gyhoeddiadau o daflenni gwyliau i hysbysebion, o erthygl cylchgrawn i adroddiad blynyddol.

Mae Mei wedi trosi ‘The Twits’ gan Roald Dahl i’r Gymraeg (‘Y Crincod’, Theatr Gwynedd) ynghyd â cherddi beirdd fel Gerallt Lloyd Owen ac eraill.

Os oes gennych gerdd, llyfr neu ddramâu i’w cyfieithu, cysylltwch.