Ysgolion

Mae Mei Mac wedi ymweld â channoedd o ysgolion hyd a lled Cymru’n creu barddoniaeth gyda phobl ifanc. Mei oedd Bardd Plant Cymru o 2000 i 2001 a bu ei waith ar faes llafur TGAU a Lefel A ac mae’n dal i deithio i sgwennu cerddi gyda disgyblion a thrafod gwaith beirdd eraill ar feysydd llafur TGA a Lefel A.

Diolch yn fawr iawn am ddoe, pawb wedi mwynhau yn arw. Dwi wedi mopio, mae’n swnio fel anthem go iawn!! – Pennaeth Ysgol Borth y Gest

Ysgolion Clwstwr Creuddyn 2019

Cafwyd cais am wythnos gyfan o sesiynau yn yr ysgolion cynradd sy’n bwydo Ysgol Y Creuddyn. Y themâu oedd ‘Fy ardal Leol’ a dyma ffrwyth llafur y plant, yng nghwmni Mei:

'Yn eu Hysbryd' - Ysgol Betws yn Rhos
Yn eu hysbryd

Dacw Owain Dafydd yn gyrru ei ddefaid main
O dan yr onnen ’sgyrnog yn llawn o grawcian brain,
Ac ylwch Edward Powall yn pasio drws yr Iôr
Yn mynd, fel mae ers talwm i arwain lleisiau’r côr.

A dacw Siân y Dderwen â’i basged ysgafn, dlawd
Yn hercian tuag adref yn brin o gig a blawd,
A Robat Ty’n y Betws yn gorffwys ar hen fainc
Yn poeni am ei feibion ar goll yn ffosydd Ffrainc.

Dan dyrau main yr eglwys sy’n canu clychau Crist
Mae heddiw llawer stori a sawl hen atgof trist;
Mae Edward, Siân ac Owain wedi ein gadael ers tro byd
Ond yma yn eu hysbryd maen nhw’n gwmni i ni o hyd.

Mei Mac ac Ysgol Betws yn Rhos

'Lleisiau Abergele' - Ysgol Glan Morfa
Lleisiau Abergele

Mae’n fol buwch tu allan. Cyn i’r lôn wneud ei synau
Mae sãn llenwi silffoedd a hen glecian cratiau.
“Mae gyrrwyr y loris eisiau bwyd yn eu boliau!”
Meddai dyn Subway.

Mae milltir i’w gerdded, cariadon i’w trafod
Parablu di-ddiwedd. Mae’r pennaeth yn barod.
“Mae yna wersi i’w dysgu a byd i’w ddarganfod!”
Meddai cloch yr ysgol.

“Tra’n towio’ch tai gwynion ar eich gwyliau rhaid cofio,
Peidiwch â tecstio! Cym’rych ofal wrth ddreifio
Neu ar strydoedd Abergele bydd llawer o gwyno!”
Meddai’r A55.

Mae’r dref yn goleuo, wrth i’r nos ddechrau t’wyllu
“Mae’r wyau a’r llefrith a’r blawd ’di’w gymysgu.
Mae paned a bisged a chrempogau i’w prynu!”
Meddai Awen o’r Caffi.

“Anghofiwch eich rhuthro, eich ras a’ch cynhyrfu!
O hen dŵr Mihangel i galon y ’sbyty
Bydd popeth yn dal yma eto yfory…”
Meddai’r hen Afon Gele.

Mei Mac ac Ysgol Glan Morfa

'Diolch Celynin Sant' - Ysgol Llangelynnin
Diolch Celynin Sant

Os yw’r haul yn melynu y Gydros,
Neu wynt traed y meirw fel saeth
Rhowch i mi hen eglwys y mynydd
Cyn unrhyw dref neu draeth.

Fan hyn mae fflam cannwyll yn dawnsio,
Fan hyn mae’r gorffennol yn byw,
Fan hyn mae rhoi croes ar dalcenni
A phriodi am mai Duw Cariad Yw.

Fan hyn lle mae’r praidd yn ymgasglu,
Y defaid mwyaf difyr drwy’r wlad,
Bu plant bach y fro ers canrifoedd
Yn cael eu cludo at ffynnon iachâd.

Am roi i ni reswm i ddilyn
Dy lwybr dros fryn a phant
Am ysgol, a phlwy’ a chymdeithas,
Diolch, Celynin Sant.

Mei Mac ac Ysgol Llangelynnin

'Pan Aeth y Môr' - Ysgol Morfa Rhiannedd
Pan aeth y môr

Pan aeth y môr a gadael tir,
’Doedd dim i weud a dweud y gwir:
Dim hetiau drud na chotiau chwaith,
Dim cledrau hir i fynd ar daith,
Dim camerâu i gofio’n dda
Y gwesty crand a gwyliau ha’.
Dim Wi-Fi, ffôn na DVD
Na gemau i ddwyn ein sylw ni.

’Doedd dim i’w wneud, dim yn y byd
Ond hel coed tan a chasglu ñd
A chwilio am ddãr o’r Gogarth draw
Mewn sgidiau brwyn drwy wynt a glaw
A hela ceirw yn y coed
A dysgu ’sgota’n bedair oed
A ffeindio’r ffordd yn ôl y sêr
A thynnu chwain o walltiau blêr.
Na, wedi’r tonnau fynd o’r tir
’Doedd ‘dim’ i wneud a dweud y gwir.

Mei Mac ac Ysgol Morfa Rhiannedd

'Pwy Sy'n Cofio Colwyn?' - Ysgol Bod Alaw
Pwy sy’n Cofio Colwyn?

Pwy sydd cofio Madog
A’i farf yn ddu fel glo,
Yn codi ei hwyliau cyntaf
Ar y cei yn grand o’i go?
Y dyn mawr cry’ yn dri deg oed?
Neb ond y coed, neb ond y coed.

A chyn bod sôn am Stadiwm,
A naid a chais a gôl
Pwy sy’n cofio seiri
Yn codi Eglwys Paul?
Yr eglwys hardd fu yno ‘rioed?
Neb ond y coed, neb ond y coed.

A phwy sy’n cofio’r canu,
A’r Punch and Judy cas
A’r môr mawr o gerddoriaeth
Uwch y tonnau gwyn a glas?
Ar waltsio, prydferth – ysgafn droed?
Neb ond y coed, neb ond y coed.

Pwy medda’ chi sy’n cofio
Y tñ ddaeth yn ysgol fawr
A’r coleg prysur unwaith
Lle mae’n hysgol ni yn nawr
Yn dathlu’n hwyliog 70 oed?
Gofynnwch i’r coed, ewch i holi’r coed.

Mei Mac ac Ysgol Bod Alaw

'Pwy Ydw I' - Ysgol Y Creuddyn
Pwy ydw i

Mae oglau hallt yr awel a chãyn yr wylan wen
A’r milltir hir o dywod a’r pîar lloriau pren,
Y gath ac Alis fechan a’r Dyffryn Hwyliog Llon
A’r bad sy’n achub pobol o’i dñ yng Nghraig y Don;
Mae’r mwynglawdd copr enwog a’r gwesty lliwgar crand
A Mai’n llawn Oes Fictoria yn waltsio o flaen y band,
Ac mae’r llanw o dwristiaid a rali gwyllt GB
A ffrindiau lu o bedwar ban yn rhan o pwy ydw i.

Y siopau paninis tenau a’r tlysau Clogau drud,
Y Parisella lleol a’r bwyd o ben draw’r byd,
Y geifr ar lethrau’r Gogarth a’r car ar wifren fain,
Y silffoedd llyfrau distaw a’r cannoedd Taid a Nain,
Y pwll sydd fel yr Arctig a’r llwyfan llydan, mawr
Yr olion traed mewn concrid a’r blerwch mân hyd lawr,
O’r caffi uchel, prysur i West End ger y lli
Mae’r rhain i gyd, yn fach neu’n fawr, yn rhan o pwy ydw i.

Mei Mac a 7C a 7R Ysgol y Creuddyn

'Mynd a Dod' - Ysgol Y Creuddyn
Mynd a Dod

Bu yma unwaith Seintiau yn eu gwisgoedd llaes a gwyn
Ac eirth a bleiddiaid llwglyd yn hela ar bant a bryn,
A chytiau mwd a brigau ar y tiroedd gwastad hyn.

Gwylanod a geir heddiw yn creu gwaith mawr a ll’nau,
A llwyfan llachar, lliwgar yn wledd hir o ddramâu
A chledrau syth a phrysur yn cludo camerâu.

Beth bynnag ddaw yfory, beth bynnag yn y byd,
Os daw y môr i mewn drachefn a chuddio pob un stryd
Mi fydd y Gogarth yno, fel y nos a’r wawr, o hyd.

Mei Mac a 7E Ysgol y Creuddyn

'Y Pethau Pwysig' - Ysgol Y Creuddyn
Y Pethau Pwysig

Ar lan y môr mae oes o gregyn,
Ar lan y môr mae ci ar dennyn,
Ar lan y môr mae byd o ddarnau,
Ar lan y môr mae gwên a dagrau.

Ar Gogarth Fawr, mae geifr direidus,
Ar Gogarth Fawr mae twll brawychus,
Ar Gogarth Fawr mae bws ar weiren,
Ar Gogarth fawr mae sleid a siglen.

Uwch ben y Bae mae iard y Creuddyn
A mwydro mawr a hwyl a chwerthin,
Lle mae, i’r genod yn arbennig,
Pethau dibwys yn holl bwysig.

Mei Mac a 7U Ysgol y Creuddyn

'Uwch ben y Bae' - Ysgol Y Creuddyn
Uwch Ben y Bae

Mae Ysgol y Creuddyn yn annwyl i mi,
Lle’r pensaer a’r twrna a’r peilot o fri
Lle’r dysgu a’r deall, y gorau drwy’r wlad,
Drwy ymdrech a gwaith a mwynhad.

Creu-ddyn!
Pleidiol wyf i ti!
Tra môr, tra haul
Uwch ben y Bae
O bydded i’r Creuddyn barhau!

Mei Mac a 7Dd Ysgol y Creuddyn

Yr Ysgwrn

Cerdd, Yn yr Ysgwrn yng nghmwni criw o Ysgol Bodffordd

'Bore Glawog yn Yr Ysgwrn
Bore Glawog yn Yr Ysgwrn

Mae’n wahanol yma heddiw
Gyda chlecian clyd y tân
A’r glaw ar lechi’r beudy
Drwy’r bore’n sibrwd cân.

Mae trafod ar gadeiriau
A thitrwm tatrwm plant,
Y drysau’n gwichian eto
Ac mae bwrlwm yn y nant.

Mae ’na gant a mil o eiriau
A rhyw fref bob hyn a hyn
A hanes du yn atsain
Oddi ar y waliau gwyn.

Ond mae’r cloc yn dal i ddisgwyl,
Fel y gwely gwag a’r fainc
I Ellis ddod, dros fryn a dôl
Yn ôl o ffosydd Ffrainc.


11 Mawrth, 2020

Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

Cerdd i gofio am hen dref a hen ardal Amlwch

'Parys'
Parys

Pwy sy’n cofio’r gweiddi yn llenwi’r harbwr draw
A’r troliau’n clecian dŵad drwy storm o fwg a glaw?
A phwy sy’n cofio rheiny a ddiflannoddd i’r dŵr hallt?
A’r capten llong fu’n gwthio ei feic i fyny’r allt?
Yn dweud dim byd ’mond mynd a dod,
Mae’r llanw’n cofio siŵr o fod.

Pwy nawr sy’n cofio’r merched yn siapio’r copr glân,
Yn dlawd ond eto’u croeso fel tanllwyth mawr o dân?
A’r ffynn ar y ffenestri fu’n godi’r dref o’u gwlâu
I fynd i gwffio’r mynydd nes bod y nos yn cau?
Yn dweud ’run gair ’mond mynd a dod,
Mae’r lleuad yn cofio siŵr o fod.

A phwy sy’n cofio’r bugail a’i chwiban uchel, hir
Yn ceisio bwydo pedwar ar ddarn bach llwm o dir?
A’r hen felinydd unig a’i farf yn flawd i gyd
Yn disgwyl, disgwyl, disgwyl am wynt o ben draw’r byd?
Yn dweud dim oll ’mond mynd a dod,
Mae’r awel yn cofio siŵr o fod.

Bl 7B efo Mei Mac, 27 Tachwedd 2019

Ysgol Borth y Gest

Sgwennu anthem a threfnu i Mary C Jones  gyfansoddi alaw.

Ym Mhorth y Gest

Rwy’n gwybod pam bod gwledydd awr ymlaen,
Rwy’n gwybod sut i ddweud “Sut wyt?” yn Sbaen,
Mae hanes merch y blodau yn fy mhen,
Dwi’n nabod pedair wyneb hen Big Ben.
Rwy’n paratoi’r ‘asado’ gorau sydd:
Mi es i Ysgol Borth y Gest bob dydd.

Cytgan:
Ym Mhorth y Gest, ar fryn uwch ben y lli
Ym Mhorth y Gest, mae yma hwyl a sbri,
Ym Mhorth y Gest, y mae ‘nyfodol i.

Rwy’n gwybod nad yw’r byd yn wyn a du
Rwy’n gwybod bod to bach ar ben bob tŷ,
Rwy’n deall pam bod angor ar fy mron
A pha mor dyfn a thywyll ydi’r don,
Rwy’n deal pryd i gyfarch “Ti” a “Chi”:
I Ysgol Borth y Gest bob dydd es i.

Cytgan:
Ym Mhorth y Gest, ar fryn uwch ben y lli
Ym Mhorth y Gest, mae yma hwyl a sbri,
Ym Mhorth y Gest, y mae ‘nyfodol i.

Ysgol Cerrigydrudion

Diwrnod y Llyfr 2019

Llunio cerdd efo plant Bl 5 a 6 ar thema’r ysgol, ‘Adar’ a ‘Sgrechian’

Meddai’r Adar

“Mae’r gwrychoedd yn ffrwydro!” meddai’r Gwcw o bell,
“Mae’r oerfel yn hanes, mi ddaw pethau’n well.”

“Dwi’n fodlon dod i chwarae,” meddai’r Sgrech y Coed
“Ond arhosa’ i ‘run eiliad os glywa’ i sŵn troed.”

“Roedd croesi’r anialwch a’r tonnau yn strach,
Ond mae’n braf cael bod adref” meddai’r Wennol fach.

“Dwyn tsips o dy law a chael hwyl am dy ben
Dyna yw ‘mhethau!” meddai’r Wylan wen.

“Os am hedfan yn uwch na neb – fi yw’r un!”
Meddai’r hebog yn haerllug wrth ddangos ei hun.

“Mi gewch grawcian a brolio am eich campau chwim,
Meddai’r hen, hen Dylluan, “Ond dwi’n dweud dim…”

Ysgol Esceifiog

Canolfan Wyddoniaeth newydd M-SParc, Gaerwen

Roedd angen cerdd ddifyr i gyd-fynd ag agor canolfan dechnoleg newydd M-Sbarc, Môn. Dyma’r gerdd a luniwyd gan Bl 5 a 6 mewn sesiwn hwyliog efo Mei.

SUT, MEDDA CHI?

Mi wn sut i yrru geiriau
O un pen y byd i’r llall,
A thynnu llun o Sadwrn
A rhoi llygaid i ddyn dall;

Dwi’n gwybod pam bod dŵr yn glir
Ac am y tân mawr dan y tir.
Dwi’n gwybod sut i hedfan,
A pham bod gwair yn wyrdd

A sut mae llygaid cathod
Yn disgleirio ar y ffyrdd;
A pham mai hallt yw’r moroedd mawr
A beth sydd yn ein dal ni i lawr.

Dwi’n gwybod sut i godi
Yr ystol dalaf un
A pham bod gwalltiau’n gwynnu
Wrth i ni fynd yn hŷn,

A pham mai newid lliw mae dail
Yr haf a’r hydref, am yn ail.
Dwi’n gwybod am wallt Einstein
Am ‘hafal’ ac ‘aflem’ a ‘p’.

Am oriau haul a machlud,
Am uchder llanw a thrai.
Sut ydwi’n gwybod medda chi?
Gwyddoniaeth ddudodd wrthaf i.

Ysgol Bro Lleu:

Sgwennu Anthem i’r Ysgol a Mei’n trefnu cyfansoddwr i greu alaw.

GORAU DYSGU CYD-DDYSGU

Dyma ddyffryn Merch y Blodau
A llyn y Tylwyth Tlws,
Cartre’r winllan drom o ffrwythau
A chroeso wrth pob drws.
Lle bu llechi’n bwydo’r enaid
Am flynyddoedd maith.

Drwy deithio llwybrau newydd
 gwyrddni’n ein ymennydd
Ym Mro Lleu, drwy ddeall a chreu
Mi ddysgwn gyda’n gilydd.

Ysgol falch o Wlad ein Tadau
Ein hiaith a’n hanes hir,
Lle down ni i ddeall eraill
A chadw’n chwedlau’n wir.
Dod i fwydo ein dychymyg
Am flynyddoedd maith.

Drwy deithio llwybrau newydd
 gwyrddni’n ein ymennydd
Ym Mro Lleu, drwy ddeall a chreu
Mi dyfwn gyda’n gilydd.

Teulu ydym yn dal dwylo,
Cymuned gynnes, glân;
Gweithio’n galed, gwthio’n hunain
A gwella gyda gwên.
Lle gobeithio daw’n plant ninnau
Am flynyddoedd maith.

Drwy deithio llwybrau newydd
 gwyrddni’n ein ymennydd
Ym Mro Lleu, drwy ddeall a chreu
Mi floeddiwn gyda’n gilydd
‘Ym Mro Lleu, drwy ddeall a chreu
Mi godwn gyda’n gilydd!’

Ysgol Brynaerau, Pontllyfni:

Anthem i’r Ysgol

Llunio anthem efo Bl 3,4, 5 a 6.

BRYNAERAU! BRYNAERAU!

O’r eiliad i mi gyrraedd a rhoi fy mhen ar waith
Rwy’n hel a hel trysorau i’m helpu ar fy nhaith.
Rwy’n gweld tu draw i’m golwg a chlywed synau mud
Drwy droi at fy nychymyg a holi a holi o hyd.

Yn gwrtais a charedig
Gwrthodaf popeth cas,
Heriaf fy hun a dal i fynd
A gwnaf fy ngorau glas.
Ym Mrynaerau, ym Mrynaerau
Gwnaf fy ngorau glas!

Dan adain glên, cyfeillgar athrawon gorau’r byd
Caf ddeall tro’r tymhorau a llanw a thrai y byd.
Caf brofi gwledydd lliwgar o ‘nghadair fechan i
A chrwydro rhyfeddodau sydd ochr draw i’r lli.

Yn gwrtais a charedig
Gwrthodaf popeth cas,
Heriaf fy hun a dal i fynd
A gwnaf fy ngorau glas.
Ym Mrynaerau, ym Mrynaerau
Gwnaf fy ngorau glas!

Tra bydd Pont Cim yn sefyll i’n cario dros y dŵr,
Ac esgyrn Beuno’n gorwedd yn dawel dan y tŵr.
Tra bydd Maen Dylan gadarn yn herio’r tonnau trwm
A Chromlech Bachwen unig yn cofio’r oesoedd llwm

Yn gwrtais a charedig
Gwrthodaf popeth cas,
Heriaf fy hun a dal i fynd
A gwnaf fy ngorau glas.
Dros Frynaerau, dros Frynaerau
Gwnaf fy ngorau glas!